Ynglŷn â
Mae’r safle hwn yn darparu darlleniadau tywydd byw, bob pum munud, o gopa’r Wyddfa.
Ar hyn o bryd, bydd y brif orsaf dywydd yn gweithredu’n flynyddol rhwng tua mis Ebrill a mis Tachwedd, yn dibynnu ar yr amodau o amgylch yn ystod yr adeg hynny. Fe effeithir yr offeryn sy’n mesur cyflymder gwynt gan rew ac amodau rhewllyd, felly nid yw’n debygol y bydd darlleniadau’n ddefnyddiol iawn yn ystod misoedd y gaeaf. Bydd darlleniadau tymheredd ar gael drwy’r flwyddyn.
Sut i ddefnyddio a dehongli’r darlleniadau
Mae’r orsaf yn darparu ffordd arall i’ch helpu i wneud penderfyniadau am ble a phryd i fynd allan i gerdded y mynyddoedd. Mentra’n Gall, drwy ddefnyddio’r wybodaeth am y tywydd gydag adnoddau, rhagolygon eraill a synnwyr cyffredin i wneud diwrnod da yn well byth.