Y Diweddaraf

Y rhagolygon tywydd ac amodau dan draed diweddaraf ar gyfer Yr Wyddfa.

Cliciwch ar bocs i weld mwy o fanylion
Snowflake Icon

Amodau Dan Draed

Adroddwyd Dydd Mawrth, Tachwedd 19, 2024

Amser: Ar y copa tua 1300
Eira uwchben: 250m
Llwybr a gymerwyd: Llwybr Llanberis a llwybr y PyG
Adroddiad nesaf: Dydd Gwener 22-11-2024

Rhew ac Eira 19-11-2024

Amodau
Roedd hi yn bwrw eira ar bob uchder ar ddechrau arsylwadau heddiw, roedd eira yn gorwedd ar y tir uwchben tua 250m, ac yn gorwedd ar y llwybr uwchben tua 300m.

Y prif anhawster ar y mynydd heddiw oedd ardaloedd o rew ar y llwybr, gyda haen denau o rew tenau caled ar draws y llwybr mewn rhai mannau, a rhew mwy trwchus wedi ffurfio wrth i eira gwlyb rewi mewn mannau eraill. Roedd yr ardaloedd rhewllyd yma yn mynd a dod ar hyd y llwybr, gyda rhai ardaloedd rhewllyd mor isel â 400m ac eraill yn uwch ar y mynydd, rhai yn nes at y copa.

Roedd yr eira yn gyffredinol denau lle oedd yn gorwedd, wedi disgyn dan ddylanwad gwynt sylweddol o'r gogledd-ddwyrain. Roedd rhai ardaloedd lle'r oedd yr eira wedi lluwchio a chasglu yn ddyfnach, gan lenwi'r llwybr. Roedd y lluwchfeydd yma wedi ei ffurfio o eira meddal gyda chramen wynt (wind slab), ond yn gyffredinol nid oedd yn ffurfio ardaloedd eang o luwchfeydd.

Diwrnod cymylog gydag eira yn disgyn i ddechrau, ac yn clirio yn y prynhawn, gyda gwyntoedd oer.

Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen).

Bydd cario caib rew a rhyw fath o bigau i'r traed yn rhoi dewisiadau i gadw'n ddiogel ar y mynydd ar ardaloedd o rew ac eira. Bydd cario crafangau cerdded (crampons) yn cynnig dewis mwy diogel wrth ddod ar draws ardaloedd annisgwyl o amodau anoddach.

Bydd cario gogls eira (fel gogls sgïo) yn rhoi modd i warchod y llygaid rhag gwyntoedd oer ac eira yn lluwchio, gan ei gwneud yn rhwyddach i weld er mwyn teithio yn fwy diogel ar y mynydd.

Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Mawrth yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tymheredd o dan y rhewbwynt ar draws ardaloedd eang o'r mynydd, gyda'r tymheredd cyn ised â -5˚C (gan deimlo cyn ised â -14˚C). Mae darogan hefyd am gawodydd eira, rhai o'r rhai yn drwm, a chyfnodau cliriach ar adegau. Bydd gwynt sylweddol hefyd ar adegau.

Golyga hyn bod amodau gynyddol aeafol yn debygol o ddatblygu yn y dyddiau i ddod, gyda posibilrwydd o fwy o eira, ac ardaloedd gynyddol rewllyd yn datblygu ar draws ardaloedd eang o'r mynydd.

Y copa'n disgleirio
Y copa'n disgleirio
Rhewllyd ar Allt Goch
Rhewllyd ar Allt Goch
Llwybr Llanberis yn llawn eira
Llwybr Llanberis yn llawn eira
Edrych i lawr o Fwlch Glas
Edrych i lawr o Fwlch Glas
Eira ar lwybrau PyG/Mwynwyr
Eira ar lwybrau PyG/Mwynwyr
Heulwen ar lwybr Rhyd Ddu
Heulwen ar lwybr Rhyd Ddu

Rhagolwg

4  Peryglon
Heddiw, Iau
Effaith oeri difrifol
Gwelededd Gwael
Gwyntoedd cryfion
Stormydd a tharanau

Tymheredd

Copa: -5.5°C
Llanberis: -0.2°C

Machlud

16:12
Heddiw, Iau
Gwawrio: 07:54 yna 8 awr o olau dydd

Gwegamera

21/11, 07:32

Caffi'r copa

Ar gau
Dros y gaeaf

Mentra'n Gall

Gofynnwch 3 chwestiwn i’ch hynan cyn i chi gychwyn:

  • Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgilliau ar gyfer y diwrnod?
  • Oes gen i’r offer cywir?
  • Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?

Ymweld ag AdventureSmart Cymru i ddod o hyd i'r atebion y mae angen i chi fod yr offer cywir a gwybod sut i fod yn ddiogel!

YrWyddfaFyw ar eich gwefan??

Gallwch osod rhagolygon Yr Wyddfa Fyw yn hawdd ar unrhyw wefan.
Sut i osod Yr Wyddfa Fyw ar eich gwefan