Amodau Dan Draed
Amser: Ar y copa tua 0600
Eira uwchben: dim eira wedi ei weld
Llwybr a gymerwyd: Llwybr y PyG
Adroddiad nesaf: Dydd Gwener 26-4-2024
Amodau
Ni welwyd unrhyw eira yn ystod arsylwadau heddiw.
Dechrau niwliog a gwlyb i'r bore, gydag awel ysgafn.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen).
Bydd cario gogls eira (fel gogls sgïo) yn rhoi modd i warchod y llygaid rhag gwyntoedd oer ac eira yn lluwchio, gan ei gwneud yn rhwyddach i weld er mwyn teithio yn fwy diogel ar y mynydd.
Bydd cario caib rew a rhyw fath o bigau i'r traed yn rhoi dewisiadau i gadw'n ddiogel ar y mynydd os bydd eira neu rew yn datblygu (gweler isod).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Mawrth yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu bydd y tymheredd ar y copa yn agos i'r rhewbwynt am y rhan fwyaf o'r cyfnod hyd yr adroddiad nesaf dydd Gwener, ond yn oerach dros nos, yn enwedig yn nes at ddiwedd yr wythnos. Mae darogan i'r tymheredd ar y copa fod cyn ised â -3˚C (gan deimlo cyn ised â -8˚C).
Nid yw eira sylweddol yn edrych yn debygol o ddatblygu o'r rhagolygon, ond gyda tymheredd o dan y rhewbwynt, a chawod neu ddwy yn bosib mae posibilrwydd o rywfaint o eira ar adegau. Gyda darogan am dymheredd sawl gradd o dan y rhewbwynt mae hefyd posibilrwydd am rywfaint o rew ar y mynydd. Mae'r posibilrwydd o rew (neu eira) yn ymddangos yn fwyaf tebygol nos Iau a fore dydd Gwener, a gall fod werth cadw llygad ar y rhagolygon diweddaraf o'r herwydd.