Amodau Dan Draed
Amser: Ar y copa tua 1530
Eira uwchben: dim eira na rhew wedi ei weld
Llwybr a gymerwyd: llwybr y PyG, llwybr y mwynwyr
Adroddiad nesaf: dydd Mawrth 18-11-2025
Mae yr adroddiad yma wedi ei gyhoeddi ddiwrnod yn gynnar ar ddydd Iau yn hytrach na’r dydd Gwener arferol oherwydd bod tywydd difrifol yn cael ei ragweld ar ddydd Gwener y 14eg o Dachwedd.
Amodau
Ni welwyd unrhyw eira na rhew ar y mynydd yn ystod arsylwadau heddiw.
Diwrnod cymylog, gydag ambell gawod, gwynt cymedrol, ac ambell gip prin o awyr las.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen neu ddwy bob un).
Bydd cario gogls eira (fel gogls sgïo) yn rhoi modd i warchod y llygaid rhag gwyntoedd oer ac eira yn lluwchio, gan ei gwneud yn rhwyddach i weld er mwyn teithio yn fwy diogel ar y mynydd.
Bydd cario pigau bach i’r traed (microspikes) rhag ofn yn cynnig dewisiadau mwy diogel os bydd eira neu rew yn datblygu ar y mynydd (gweler gwybodaeth ychwanegol isod)
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Iau yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu bydd y tymheredd ar y copa yn uwch na’r rhewbwynt i ddechrau dydd Gwener ond yn disgyn yn agos i neu o dan y rhewbwynt am y rhan fwyaf o’r cyfnod hyd at yr adroddiad nesaf ddydd Mawrth. Mae darogan i'r tymheredd ar y copa fod cyn ised â -2ºC (gan deimlo fel ei bod cyn ised â -13ºC ar adegau).
Gyda'r tymheredd yn agos i, neu o dan y rhewbwynt am gyfnodau sylweddol a posibilrwydd iddi fwrw mae rhywfaint o bosibilrwydd am eira neu rew yn uwch ar y mynydd ar adegau. Mae hyn yn edrych fwyaf tebygol nos Lun i fore dydd Mawrth yn y rhagolygon ar ddydd yr adroddiad, ond yn bosib ar adegau eraill (nos Wener er enghraifft). Gall newid bach yn y rhagolygon olygu posibilrwydd cryfach o eira neu rew, a dylid cadw llygad ar y rhagolygon diweddaraf rhag ofn.
Bydd hefyd cyfnodau o wynt cryf iawn a glaw trwm ar adegau yn y dyddiau i ddod, gyda rhybuddion melyn am wynt ac am law wedi eu cyhoeddi am gyfnod ddydd Gwener a ddydd Sadwrn, lle y gall y tywydd greu peryglon ar lawr gwlad, tra bydd amodau ar y mynydd yn fyw difrifol eto. Mae cyfnodau o luwchio (blizzards) yn bosibl.