Amodau
Ni welwyd unrhyw eira na rhew ar y mynydd heddiw, gydag amodau yn gyffredinol sych braf dan draed.
Diwrnod heulog braf, gydag awel gref ond ddigon oer ar adegau, ac yn teimlo yn fwyn yn yr haul allan o’r gwynt.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen neu ddwy).
Gyda'r haul yn cryfhau, a'r gwynt yn dywyllodrus o oer, mae hi werth dechrau ystyried y posibilrywdd o losgi yn yr haul ac os oes angen dillad gyda choler a llewis hir (a het?) neu eli haul i warchod rhag yr haul ar ddiwrnodau hir, neu i'r rheini sydd yn dueddol o losgi yn yr haul.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Mawrth yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tymheredd ar y copa uwchben y rhewbwynt am y rhan fwyaf o'r cyfnod hyd nes yr adroddiad nesaf dydd Gwener. Mae darogan i’r tymheredd fod yn agos i’r rhewbwynt o dan awyr glir ar adegau, gyda’r tymheredd ar y copa cyn ised â 0˚C, gan deimlo cyn ised â -10˚C.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu bod unrhyw eira newydd yn annhebygol, ond er nad yw rhewi’n galed yn debygol mae barrug neu hyd yn oed rhywfaint o rewi yn bosib mewn mannau cysgodol dan awyr glir dros nos. Mae hefyd awgrym y bydd y tymheredd dros nos yn oerach eto dros y penwythnos, ac er ddim yn debygol o effeithio cerdded y llwybr yn sylweddol cyn yr adroddiad nesaf bydd hi werth cadw llygad ar y rhagolygon diweddaraf rhag i’r tueddiad mwy rhewllyd yma effeithio ar amodau yn gynt nag sydd disgwyl ar y funud.